Mynydd i'w ddringo yn Y Swistir a thaith bell i Kazakhstan
Manage episode 456348576 series 2819366
Profi pawb yn anghywir - dyna'r her i dîm Rhian Wilkinson yn ôl Malcolm ac Owain ar ôl cael grŵp anodd tu hwynt yn rowndiau terfynol Ewro 2025, sy'n cynnwys Ffrainc, Iseldiroedd a Lloegr. Ond roedd lwc o blaid Craig Bellamy pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Mae'r hogia wedi cyffroi yn lan yn barod ac wedi mynd ati i wneud gwaith ymchwil manwl iawn ar y gwrthwynebwyr Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakstan a Liechtenstein.
Roedd hi'n benwythnos eithaf siomedig ar y cyfan i bedwar prif glwb Cymru, ac mae Owain wedi gweld digon yn barod... "mae Caerdydd yn mynd i lawr!"
259 επεισόδια